OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1937(Cy.206)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (“Gorchymyn 2004”) yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer yr ail gyfnod allweddol ac mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn 2005”) yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer y trydydd cyfnod allweddol.
Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn 2005 yn gosod dyletswydd ar athrawon i asesu disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r ddarpariaeth honno yng Ngorchymyn 2004 a Gorchymyn 2005 fel bod rhaid i ddisgyblion gael eu hasesu ddim hwyrach nag ugain o ddiwrnodau gwaith cyn diwedd tymor yr haf.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1937(Cy.206)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011
Gwnaed 29 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Awst 2011
Yn dod i rym 1 Medi 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004
2. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004([2]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(1), ar ôl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—
“ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([3]);”; a
(b) yn erthygl 4(3) yn lle “na phythefnos” rhodder “nag ugain o ddiwrnodau gwaith.
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005
3. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3(1), ar ôl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—
“ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;”; a
(b) yn erthygl 4(2), yn lle “na phythefnos”, rhodder “nag ugain o ddiwrnodau gwaith”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011